Comisiwn y Senedd                                    

 

Lleoliad:

Ystafell Gynhadledd 4B - Tŷ Hywel

 

Dyddiad:

Dydd Llun, 14 Gorffennaf 2025

 

Amser:

10.30 - 12.30

 

 

 

Cofnodion:  SC(6)2025(7)

 

 

 

Aelodau’r Comisiwn:

 

Y Gw. Anrh. Elin Jones AS (Cadeirydd)

Hefin David AS

Janet Finch-Saunders AS

Adam Price AS

Joyce Watson AS

 

 

 

 

 

Swyddogion yn bresennol:

 

Manon Antoniazzi, Prif Weithredwr a Chlerc y Senedd

Arwyn Jones, Cyfarwyddwr Cyfathrebu ac Ymgysylltu

Julian Luke, Cyfarwyddwr Busnes y Senedd

Ed Williams, Cyfarwyddwr Adnoddau

Leanne Baker, Prif Swyddog Pobl

Lisa Bowkett, Prif Swyddog Cyllid

Matthew Richards, Cyfarwyddwr Busnes y Senedd Dros Dro

Sulafa Thomas, Pennaeth y Gwasanaeth Cymorth i'r Comisiwn ac i'r Aelodau

Eleanor Wrighton, Rheolwr Pontio Etholiadol

Lisa Bray, Pennaeth Gwasanaethau Cwsmeriaid TGCh

Gwion Evans, Pennaeth Swyddfa Breifat y Llywydd

Elin Roberts, Cynghorwr Polisi i'r Llywydd

 

 

 

 

 

 

Eraill yn bresennol:

 

 

 

 

 

 

 

<AI1>

1      Cyflwyniad

 

</AI1>

<AI2>

1.a  Cyflwyniad ac ymddiheuriadau

 

Ni chafwyd ymddiheuriadau.

 

</AI2>

<AI3>

1.b  Datgan buddiannau

 

Ni chafwyd datganiadau o fuddiant.

 

</AI3>

<AI4>

1.c   Cofnodion y cyfarfod blaenorol

 

Cytunodd y Comisiynwyr ar Gofnodion y cyfarfod ar 30 Mehefin 2025.

 

</AI4>

<AI5>

2      Y diweddaraf am y gyllideb

 

Cafodd y Comisiynwyr y wybodaeth ddiweddaraf am y sefyllfa o ran y trafodaethau ffurfiol rhwng Ochr Rheoli'r Comisiwn Ochr Undebau Llafur y Comisiwn ynghylch y fframwaith cyflogau ar gyfer staff y Comisiwn o fis Ebrill 2026 ymlaen.

Fe wnaethant hefyd ystyried adborth ar y gwaith ymgysylltu a gynhaliwyd â dau Grŵp plaid hyd yn hyn (gydag un Grŵp yn gwrthod y cynnig) ar y paratoadau ar gyfer cyllideb ddrafft y Comisiwn ar gyfer 2026-27.

 

Gofynnodd y Comisiynwyr i swyddogion y Comisiwn sicrhau bod y Gyllideb Ddrafft a gyflwynir ym mis Medi mor dynn ag y gallai fod, gan ystyried yr angen i sicrhau bod gofynion y Senedd a'r ddarpariaeth gyllidebol gysylltiedig ar gyfer blwyddyn gyntaf y Seithfed Senedd yn cael eu proffilio'n briodol, a chan ystyried hefyd faterion capasiti a llesiant.

 

Hefyd, fe gawsant ragor o wybodaeth i lywio’r drafodaeth ar opsiynau, i sicrhau bod yr adnoddau angenrheidiol ar gyfer yr opsiwn a ffafrir yn cael eu cynnwys yn y gyllideb ddrafft ar gyfer 2026/27.

Gwnaeth y Comisiynwyr

 

a.        nodi’r sefyllfa ddiweddaraf o ran y trafodaethau ag Ochr yr Undebau Llafur ynghylch cyflogau staff y Comisiwn;

b.        ystyried yr opsiynau pellach a gyflwynwyd a chytuno ar y camau nesaf dymunol yn y broses o drafod cyflogau, sef:

-           symud i drafodaethau cyflog blynyddol;

-           hunan-ariannu'r 0.5% ychwanegol o'r dyfarniad cyflog;

-           gwneud codiannau targedig a graddol ar 3.75% i raddau TS hyd at SEO, 3.25% i G7 i G6 a 3% i Gyfarwyddwyr/Prif Swyddog Gweithredol; a

-           chytuno ar safbwynt ar ddeialog bellach gydag Ochr yr Undebau Llafur, a ddaw i ben ym mis Awst.

 

</AI5>

<AI6>

3      Materion y Seithfed Senedd

 

Trafododd y Comisiynwyr gyfres o bapurau ar gynllunio ar gyfer diddymu'r Chweched Senedd a'r pontio trwy gyfnod yr etholiad yn 2026.

Trafododd y Comisiynwyr y cyd-destun y mae gwybodaeth i Aelodau yn cael ei pharatoi ynddo ynghyd â nodyn ar y sefyllfa gyfreithiol sy'n ymwneud â Diddymu.

Gwnaethant drafod i ba raddau y dylai Aelodau’r Chweched Senedd allu cael mynediad at wasanaethau ac adnoddau’r Senedd a’u defnyddio drwy gydol y cyfnod pan fyddant yn ymgyrchu, gan gynnwys yn ystod y diddymiad a’r trefniadau cymorth ar gyfer Aelodau sy’n gadael.

Nododd y Comisiynwyr y manylion a ddarparwyd a chadarnhawyd eu bod yn parhau i gefnogi’r egwyddorion a'r dull y cytunwyd arnynt yn flaenorol sy'n sail i baratoadau ar gyfer dros gyfnod yr etholiad.

Gwnaethant gytuno:

 

·         y bydd y deiliaid swyddi sy'n parhau yn eu swydd yn ystod y diddymiad yn cael mynediad at adnoddau'r Senedd at ddibenion eu swyddogaethau fel deiliaid swyddi;

·         y bydd mynediad i Ystad y Senedd i Aelodau a'u staff yn ystod y diddymiad yn gyfyngedig i'r mannau cyhoeddus, ac eithrio lle y ceir cytundeb ymlaen llaw at ddibenion penodol;

·         y bydd yr Aelodau a'u staff yn cadw mynediad cyfyngedig at adnoddau'r Senedd, gan gynnwys cyfrifon TGCh, caledwedd a swyddfeydd etholaethol/rhanbarthol presennol, ar gyfer gwaith achos brys gweddilliol a thasgau gweinyddol arferol yn unig, ac i’r Aelodau na fydd yn ymgeisio allu cwblhau unrhyw gamau dirwyn i ben sy'n weddill;

·         na fydd Aelodau sy'n ymgeisio yn yr etholiad yn gallu llogi eu swyddfeydd at ddefnydd personol, gan gynnwys unrhyw ymgyrchu; ac

·         na fydd Aelodau sy'n ymgeisio yn yr etholiad yn gallu llogi eu ffonau symudol at ddefnydd personol, gan gynnwys unrhyw ymgyrchu.

Cytunodd y Comisiynwyr hefyd y dylai Rhaglen Cymorth i Weithwyr (EAP) y Comisiwn barhau i fod ar gael i Aelodau a'u staff am chwe mis ar ôl y diddymiad/diwrnod pleidleisio (yn amodol ar ba ddyddiad yw diwedd cyfnod yr Aelodau yn eu swyddi), yn amodol ar 'optio i mewn' gan yr unigolyn dan sylw ymlaen llaw (er mwyn galluogi prosesu PAYE).

Cytunodd y Comisiynwyr i roi arweiniad i Aelodau sy'n rhoi’r gorau i’w seddau y dylent anelu at gwblhau'r camau sy'n ofynnol ar gyfer cau eu swyddfeydd erbyn diwedd mis Ebrill 2026.

 

Yna trafododd y Comisiynwyr argymhellion ar gyfer dyrannu Technoleg Gwybodaeth a Chyfathrebu (TGCh) i Aelodau a'u staff cymorth yn y Seithfed Senedd.

Cytunodd y Comisiynwyr ar Opsiwn 1, sef darparu'r un dyraniad caledwedd TGCh â'r hyn a ddarparwyd ar gyfer y Chweched Senedd, ac eithrio na fydd dewis rhwng gliniadur neu Surface, gan mai gliniadur Surface yn unig fydd yn cael ei gynnig i’r Aelodau.

O ran opsiynau meddalwedd, cytunodd y Comisiynwyr i ymgynghori â'u Grwpiau. Gofynnwyd i swyddogion ddarparu nodyn i lywio'r trafodaethau.

Bydd y penderfyniadau ar ddefnydd Aelodau o adnoddau yn y cyfnod cyn yr etholiad a'r camau i gau swyddfa gyhoeddus Aelod o'r Senedd yn cael eu rhannu â'r Aelodau a'u defnyddio i lywio'r canllawiau ynghylch y Diddymiad ar gyfer Aelodau a'u staff.

Bydd y penderfyniadau ar ddyrannu TGCh yn cael eu rhannu â'r Aelodau ar ddechrau'r Seithfed Senedd.

 

</AI6>

<AI7>

4      Llythyr at y Pwyllgor Cyllid - diweddariad ynghylch Argymhellion

 

Cytunodd y Comisiynwyr ar lythyr at y Pwyllgor Cyllid yn rhoi rhagor o wybodaeth mewn perthynas ag argymhellion y Pwyllgor a wnaed yn ei Adroddiad ar Waith Craffu ar Gyllideb Ddrafft 2025-26. Rhagwelir y bydd y Pwyllgor yn cyhoeddi’r llythyr hwn.

 

</AI7>

<AI8>

5      Ffyrdd o Weithio - Diweddariad Bae 2032

 

Cafodd y Comisiwn y wybodaeth ddiweddaraf am gynnydd prosiect Bae 32, a'r camau sy'n arwain at y Comisiwn yn cymeradwyo’r cynigydd llwyddiannus ym mis Rhagfyr.

 

</AI8>

<AI9>

6      Papurau i’w nodi:

 

</AI9>

<AI10>

6.a  Arolwg yr Aelodau Cyn yr Etholiad

 

Nododd y Comisiynwyr gynnwys arolwg ymgysylltu ag Aelodau a staff cymorth olaf y Chweched Senedd, a drefnwyd ar gyfer hydref 2025, a'r mân newidiadau i gwestiynau yn arolwg y staff yn dilyn adborth gan yr Aelodau a chanfyddiadau diweddar ymchwiliad y Pwyllgor Safonau Ymddygiad i urddas a pharch.

 

</AI10>

<AI11>

6.b  Y Prif Weithredwr at y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus a Gweinyddiaeth Gyhoeddus - diweddariad ynghylch Argymhellion

 

Nododd y Comisiynwyr ymateb gan y Prif Weithredwr i'r Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus a Gweinyddiaeth Gyhoeddus i roi diweddariadau pellach ar yr argymhellion o'r Adroddiad: Craffu ar Gyfrifon 2023-24.

 

</AI11>

<AI12>

6.c   Diweddariad y Bwrdd Gweithredol (penderfyniadau RAD)

 

Nododd y Comisiynwyr y crynodeb o benderfyniadau recriwtio a ddarperir fel mater o drefn i bob cyfarfod o'r Comisiwn.

 

</AI12>

<AI13>

7      Unrhyw fater arall

 

 

Nododd y Comisiynwyr y gwaith parhaus gan swyddogion i archwilio dull Senedd yr Alban o fonitro ac adrodd ar gyfryngau cymdeithasol.

 

Bydd swyddogion hefyd yn darparu nodyn ar y defnydd cyfreithlon o recordiadau fideo o drafodion y Senedd at ddibenion cyfryngau cymdeithasol.

 

 

Cytunodd y Comisiynwyr y dylid cwblhau archwiliad synhwyraidd fel rhan o'r paratoadau ar gyfer y Seithfed Senedd. 

 

</AI13>

<TRAILER_SECTION>

</TRAILER_SECTION>

<LAYOUT_SECTION>

 

FIELD_SUMMARY

 

</LAYOUT_SECTION>

<TITLE_ONLY_LAYOUT_SECTION>

 

</TITLE_ONLY_LAYOUT_SECTION>

<HEADING_LAYOUT_SECTION>

FIELD_TITLE

 

</HEADING_LAYOUT_SECTION>

<TITLED_COMMENT_LAYOUT_SECTION>

FIELD_TITLE

 

FIELD_SUMMARY

</ TITLED_COMMENT_LAYOUT_SECTION>

<COMMENT_LAYOUT_SECTION>

FIELD_SUMMARY

 

</ COMMENT_LAYOUT_SECTION>

 

<SUBNUMBER_LAYOUT_SECTION>

 

FIELD_SUMMARY

 

</SUBNUMBER_LAYOUT_SECTION>

 

<TITLE_ONLY_SUBNUMBER_LAYOUT_SECTION>

 

</TITLE_ONLY_SUBNUMBER_LAYOUT_SECTION>